Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd

E&S(4)-13-13 papur 1

Ymchwiliad i bolisi dŵr yng Nghymru – Tystiolaeth gan Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd

 

 

Cyflwyniad

 

1.    Mae Llywodraeth Cymru yn darparu’r cyfeiriad strategol ar gyfer polisi dŵr yng Nghymru, oddi mewn i gyfres gymhleth o gyfrifoldebau rheoleiddiol a gweithredol.  Ein hegwyddorion craidd ni yw sicrhau mynediad at ddŵr yfed diogel, cynnal gwasanaethau dŵr a charthffosiaeth am bris fforddiadwy a chydymffurfio â rhwymedigaethau statudol sy’n sicrhau ansawdd dŵr yn gyffredinol.

 

2.    Roedd y Rhaglen Lywodraethu, a gyhoeddwyd ym mis Medi 2011, yn datgan y camau gweithredu allweddol y byddwn yn eu cymryd mewn perthynas â dŵr a’r mesurau y byddwn yn eu defnyddio i gofnodi cynnydd.   Mae hyn yn adeiladu ar yr ymrwymiadau ehangach mewn perthynas â dŵr sydd wedi'u datgan yn y Strategaeth Amgylcheddol ar gyfer Cymru 2006, y Cynllun Datblygiad Cynaliadwy - Cymru'n Un: Cenedl Un Blaned 2009, Strategaeth Cymru ar y Newid yn yr Hinsawdd Hydref 2010, Datganiad Sefyllfa ar y Polisi Strategol ar Ddŵr 2009 / 2011 a Datganiad Ysgrifenedig y Gweinidog blaenorol ar Ddŵr – Rhagfyr 2011.

 

3.    Mae’r Cynllun Gweithredu ar gyfer Trechu Tlodi yn datgan ystod o ymrwymiadau i sicrhau bod biliau dŵr yn cael eu cadw ar lefel fforddiadwy ac i gwsmeriaid gael dewis o opsiynau prisiau a fydd yn lleihau dyledion ac yn amddiffyn grwpiau agored i niwed.

 

Fforddiadwyedd Dŵr

 

4.    Ym mis Rhagfyr 2009, comisiynodd Defra a Llywodraeth Cymru Adolygiad ar y cyd o Ddefnyddio Mesuryddion a Phrisiau Gwasanaethau Dŵr a Charthffosiaeth, a arweiniwyd gan Anna Walker, Prif Weithredwr y Comisiwn Gofal Iechyd bryd hynny.

 

5.    Archwiliodd Adolygiad Walker y system bresennol o brisiau gwasanaethau dŵr a charthffosiaeth i deuluoedd a rhoddodd sylw i fforddiadwyedd dŵr yn ogystal â chynigion ar gyfer annog mwy o effeithlonrwydd dŵr ac opsiynau posibl yn y dyfodol ar gyfer defnyddio mesuryddion dŵr.

 

6.    Un o’n prif flaenoriaethau ni yw lleihau tlodi yng Nghymru ac un o’r prif feysydd sy’n peri pryder i ni yw effaith prisiau dŵr ac effaith y cynnydd mewn biliau dŵr ar y cwsmeriaid hynny sy’n llai abl i dalu.

 

7.    Mae fforddiadwyedd dŵr yn rhan o broblem ehangach o dlodi cyffredinol, wrth i deuluoedd ei chael yn anodd fforddio hanfodion bywyd.Mae hyn yn hynod bwysig o’i ystyried ochr yn ochr â’r cynnydd mewn biliau cyfleustodau eraill a biliau eraill y cartref. 

 

8.    Mae ein cynigion polisi cyfredol a newydd yn adeiladu ar y Datganiad Ysgrifenedig ar Bolisi Dŵr yng Nghymru a gyhoeddwyd gan Weinidog blaenorol yr Amgylchedd a Datblygiad Cynaliadwy ar 12 Rhagfyr 2011. Roedd hwn yn tynnu sylw at fforddiadwyedd fel blaenoriaeth allweddol i Lywodraeth Cymru ac yn datgan y bwriad i ddatblygu ymhellach agweddau ar Adolygiad Walker ar gyfer cynigion yn nrafft y Strategaeth Dŵr ar gyfer Cymru, yr ydym yn bwriadu ei gyhoeddi ar gyfer ymgynghoriad yn nes ymlaen eleni.

 

9.    Yn ystod y chwe mis diwethaf, rydym wedi bod yn dadansoddi gwaith ymchwil ac yn cynnal trafodaethau gyda rhanddeiliaid ledled y sector dŵr yng Nghymru er mwyn datblygu ein polisi fforddiadwyedd.  Rydym wedi datgan y canlyniadau canlynol ar gyfer y strategaeth:

 

§  Cadw biliau dŵr ar lefel fforddiadwy.

§  Cwsmeriaid yn cael dewis o opsiynau fel prisiau, i leihau dyledion, sbarduno effeithlonrwydd a sicrhau manteision i bawb gan amddiffyn grwpiau agored i niwed ar yr un pryd.

§  Prisiau dŵr a charthffosiaeth teg a chyfartal i bob cwsmer.

§  Cwsmeriaid yn cael eu hamddiffyn rhag unrhyw gynnydd mawr diangen mewn biliau.

 

10. Mae teulu’n cael ei ystyried fel teulu sy’n dioddef o dlodi dŵr os yw’n talu mwy na 3% o'i incwm am ddŵr ac os yw teulu'n talu mwy na 5% o’i incwm am ddŵr, mae’n cael ei ystyried fel teulu sy’n dioddef o dlodi dŵr difrifol.   Yn ôl yr wybodaeth ddiweddaraf gan Ofwat, mae 30% o deuluoedd yng Nghymru’n gwario mwy na 3% o’u hincwm gwario ar eu biliau dŵr a charthffosiaeth, gyda 14% o deuluoedd yn gwario mwy na 5%.

 

11. I gadw biliau dŵr ar lefel fforddiadwy a lleihau tlodi dŵr, rydym wedi bod yn datblygu nifer o gynigion penodol yn seiliedig ar argymhellion Adolygiad Walker, a fydd yn sicrhau bod gennym ni system brisiau deg a chynaliadwy yn ei lle.  Gyda’i gilydd, bydd y mesurau hyn yn helpu i wella fforddiadwyedd dŵr yng Nghymru yn ystod y cyfnod gweinyddu hwn.

 

Canllaw Tariffau Cymdeithasol

 

12. Cyhoeddwyd ein Canllaw Tariffau Cymdeithasol ar 1 Mawrth 2013. Nod y Canllaw hwn yw gostwng prisiau i ddefnyddwyr dŵr yng Nghymru sy’n cael anhawster talu eu biliau.  Fel rhan o'r Rhaglen Lywodraethu, mae'n ofynnol i swyddogion Llywodraeth Cymru adrodd yn ôl yn rheolaidd ar y canlynol:

 

§  nifer y tariffau cymdeithasol gan ymgymerwyr dŵr a ddatblygwyd yn unol â’r canllaw

§  nifer y tariffau cymdeithasol a gymeradwywyd gan Ofwat

§  nifer y teuluoedd sy’n elwa o dariffau cymdeithasol

§  lefel dyledion cwmnïau dŵr wedi’u gostwng.

§  cwsmeriaid yn derbyn tariffau cymdeithasol a gynigir

§  a gostyngiad yn lefel y bobl sy’n profi fforddiadwyedd dŵr yng Nghymru

 

13. Bydd y swyddogion yn adolygu’r Canllaw hwn yn ôl yr angen er mwyn sicrhau ei fod yn addas i bwrpas, gan gynnal adolygiad ffurfiol o dariffau cymdeithasol yng Nghymru wedi i gyfnod Cynllun Rheoli Asedau 6 (AMP6) yr ymgymerwyr dŵr a charthffosiaeth ddod i ben yn 2020. Bydd hyn yn rhoi amser priodol i ymgymerwyr dŵr a charthffosiaeth fesur llwyddiant eu tariffau.

 

Rheoliadau Drwgddyledion

 

14. ‘Drwgddyled’ yw bil heb ei dalu sy’n cael ei ddileu gan gwmni dŵr yn y diwedd fel colled, naill ai am nad oes modd casglu’r ddyled, mae pob ymdrech resymol i’w chasglu wedi’i gwneud, neu mae’r gost o weithredu ymhellach mewn ymgais i gasglu’r ddyled yn costio mwy na’r ddyled ei hun.

 

15.Ar hyn o bryd mae drwgddyledion yn ychwanegu cyfartaledd o £20 at fil pob cwsmer dŵr.  Yng Nghymru, rydym wedi ymrwymo i fynd i’r afael â’r drwgddyledion hyn er mwyn helpu i ostwng biliau. Ar hyn o bryd, mae preswylydd eiddo’n atebol am dalu biliau dŵr, ond nid yw rhai pobl yn talu eu biliau ac mae llawer o ddyledwyr dŵr yn denantiaid. 

 

16. Mewn ymgais i fynd i’r afael â’r broblem hon, mae Adran 45 o Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 yn datgan bod landlordiaid yn atebol am brisiau dŵr os nad ydynt yn rhoi manylion eu tenantiaid i gwmnïau dŵr.  Nid yw’r rhan hon o’r Ddeddf mewn grym eto ac er mwyn iddi ddod i rym mae’n rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi Rheoliadau.

 

17. Ar hyn o bryd rydym yn datblygu ymgynghoriad ar Reoliadau ‘Drwgddyledion’ ac rydym yn bwriadu ei gyhoeddi ar gyfer cynnal ymgynghoriad yn nes ymlaen eleni.  Bydd y Rheoliadau’n datgan ei bod yn ofynnol i landlordiaid roi manylion eu tenantiaid i’w cwmni dŵr neu wynebu bod yn atebol am unrhyw filiau dŵr sydd heb eu talu yn yr eiddo maent yn berchen arno. 

 

18. Mae hwn yn ymgynghoriad pwysig a bydd yn sicrhau ein bod yn mynd i’r afael â drwgddyledion yn y diwydiant dŵr yn y ffordd fwyaf priodol i Gymru.

 

Mesuryddion

 

19. Rhwng mis Mawrth 2011 a mis Gorffennaf 2011 buom yn ymgynghori ar argymhellion Adolygiad Walker o Brisiau Gwasanaethau Dŵr a Charthffosiaeth, a oedd hefyd yn cynnwys rôl bosibl mesuryddion dŵr mewn strwythurau prisio yn y dyfodol.

 

20. Roedd yr ymgynghoriad yn edrych ar oblygiadau rhaglen o ddefnyddio mesuryddion ar gyfer Cymru.  Hefyd, roedd yr ymgynghoriad yn edrych ar nifer o ddulliau gweithredu mewn perthynas â mesuryddion ac amrywiaeth o sefyllfaoedd am lefel y defnydd o fesuryddion a’r effeithiau cyffredinol ar gwsmeriaid a’u biliau.   

 

21. Roedd mwyafrif yr ymatebwyr i’r ymgynghoriad yn cytuno â’n hegwyddorion sylfaenol i helpu gyda phenderfyniadau am y polisi a’r fframwaith cyfreithiol ar gyfer mesuryddion yn y dyfodol.  Roedd y rhain yn rhoi datrysiadau cynaliadwy hirdymor yn eu lle, gan hybu newid mewn ymddygiad ac amddiffyn teuluoedd agored i niwed ac incwm isel.

 

22. Yn gyffredinol, roedd yr ymatebion i’r ymgynghoriad yn dynodi bod pobl yn gefnogol yn gyffredinol i fesuryddion, gan eu bod yn hybu tegwch ac yn gallu annog defnydd effeithlon o ddŵr.

 

23. Ar hyn o bryd rydym yn datblygu asesiad o effaith a fydd yn edrych ar opsiynau posibl ar gyfer cyflwyno rhaglen mesuryddion gymesur, fesul camau, ar gyfer Cymru.  Bydd hyn yn sail i gynigion a gyflwynir yn ein Strategaeth ddrafft.  

 

Bil Dŵr y DU

 

24. Mae’r Bil Dŵr drafft yn cynnwys ymrwymiadau i’r ddeddfwriaeth sydd wedi’i datgan ym Mhapur Gwyn Llywodraeth y DU ar Ddŵr, Water for Life, ac mae’n bodloni llawer o argymhellion Adolygiad annibynnol Martin Cave o Gystadleuaeth ac Arloesedd mewn Marchnadoedd Dŵr.

 

25. Mae mwyafrif y Bil Dŵr drafft yn canolbwyntio ar gynigion diwygio’r farchnad Llywodraeth y DU i ddadfwndelu trwyddedau cyflenwad dŵr a charthffosiaeth er mwyn hwyluso a hyrwyddo marchnad gystadleuol yn Lloegr.  Bydd hyn yn galluogi i fusnesau a chyrff y sector cyhoeddus yn Lloegr gael dewis o ddarparwr gwasanaeth adwerthu. 

 

Diwygio’r farchnad

 

26.Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod cwsmeriaid wrth galon cyflwyno gwasanaethau dŵr a charthffosiaeth yng Nghymru ac mae hyn yn adlewyrchu dull Llywodraeth Cymru o weithredu o ran cyflenwi gan ganolbwyntio ar ddinasyddion.  Ein nod ni yw gweld gwasanaethau safonol, fforddiadwy, cadarn ac ymatebol ar gyfer cwsmeriaid domestig a busnes yng Nghymru.

 

27.Ym mis Medi 2009, cyhoeddodd Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru ymgynghoriad ar Adolygiad Cave. Ymgynghorodd Llywodraeth y DU ar gynigion ar gyfer bwrw ymlaen ag argymhellion yr adolygiad yn Lloegr.  Ni ofynnodd Llywodraeth Cymru am safbwyntiau ar gynigion tebyg ar gyfer Cymru, ond defnyddiodd y ddogfen ymgynghori i roi cyfle i dderbyn sylwadau ar briodolrwydd yr argymhellion mewn perthynas â’r diwydiant dŵr yng Nghymru.

 

28.Mae swyddogion wedi adolygu nifer o adroddiadau ac wedi cyfarfod Ofwat a Defra ar sawl achlysur i drafod sut gallai adwerthu a chystadleuaeth ar lefel uwch yn y diwydiant dŵr fod o fudd i Gymru. Er hynny, hyd yma, nid ydym wedi derbyn unrhyw enghreifftiau clir na thystiolaeth i ddangos y manteision o fwrw ymlaen â’r polisïau hyn yng Nghymru ar hyn o bryd.

 

29.Mae swyddogion yn comisiynu astudiaeth ar hyn o bryd i edrych ar fframwaith rheoleiddiol a deddfwriaethol presennol y diwydiant dŵr yng Nghymru (llinell sylfaen).  Bydd hyn yn galluogi Llywodraeth Cymru i weld a yw’r drefn reoleiddiol gyfredol yng Nghymru yn addas i bwrpas.  Byddwn hefyd yn edrych ar opsiynau i’w profi yn erbyn y llinell sylfaen i sicrhau bod cwsmeriaid yng Nghymru’n cael y gwasanaeth gorau ac rydym yn parhau i annog ein cwmnïau dŵr i groesawu gofynion effeithlonrwydd.  Byddai’n ofynnol i’r opsiynau hyn gynnwys gwell rheoliadau a chymhelliant a datrysiadau marchnad.

 

30. Byddwn hefyd yn manteisio ar gyfle i asesu pa ofynion a disgwyliadau gwasanaeth sydd gan gwsmeriaid busnes mewn perthynas â’r diwydiant dŵr yng Nghymru.

 

31. Bydd ymgynghoriad ein Strategaeth Ddŵr yn cael ei ddefnyddio i edrych ar opsiynau amrywiol a fydd yn canolbwyntio ar ofynion cwsmeriaid busnes yn ardaloedd cyflenwad dŵr a charthffosiaeth Cymru, a mecanweithiau rheoleiddio effeithlon i wella arloesedd a gwelliannau yn y diwydiant.  Bydd yr ymgynghoriad hwn yn helpu fel sail i ddull Llywodraeth Cymru o weithredu o ran darparu gwasanaethau dŵr fforddiadwy, cadarn ac ymatebol i gwsmeriaid domestig a busnes.

 

Strategaeth Ddŵr ar gyfer Cymru

 

32. Roedd y Rhaglen Lywodraethu’n datgan datblygu Strategaeth Ddŵr fel cam gweithredu allweddol ar gyfer y cyfnod gweinyddu presennol.

 

33. Bydd y Strategaeth yn datgan cyfeiriad strategol Llywodraeth Cymru ar gyfer polisi dŵr yng Nghymru yn y dyfodol a bydd yn ystyried sut y gallwn ni, fel Llywodraeth, gefnogi anghenion economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol Cymru.  Yn benodol, bydd y Strategaeth yn ceisio edrych ar ddŵr yn yr ystyr ehangaf bosibl – beth yw ein perthynas â dŵr a beth sydd raid i ni ei wneud er mwyn sicrhau’r budd economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol gorau posibl o’r adnodd hwn.

 

34. Bydd y Strategaeth yn cael ei gosod yng nghyd-destun polisi ehangach Llywodraeth Cymru, gan gynnwys Rhaglen Cymru Fyw, yr Agenda Trechu Tlodi a Strategaeth Cymru ar y Newid yn yr Hinsawdd.  Mae’n cynnig cyfle i ni enghreifftio ein dull o weithredu mewn perthynas â rheoli cyfoeth naturiol.

 

35. Yn benodol, bydd y Strategaeth yn ceisio ymateb i argymhellion perthnasol y mae Llywodraeth Cymru’n bwriadau bwrw ymlaen â hwy mewn perthynas â nifer o adolygiadau:

 

§  ‘Adolygiad Annibynnol o Gystadleuaeth ac Arloesedd mewn Marchnadoedd Dŵr (Ebrill 2009)’ gan Martin Cave

§  ‘Adolygiad Annibynnol o Brisiau Gwasanaethau Dŵr a Charthffosiaeth i Deuluoedd (Rhagfyr 2009)’ gan Anna Walker

§  ‘Adolygiad o Ofwat a Chynrychiolaeth Defnyddwyr yn y Sector Dŵr (Awst 2011)’ gan David Gray

 

36. Yn ystod y 6 mis diwethaf, rydym wedi bod yn cynnal llawer iawn o weithgarwch ymgysylltu â Rhanddeiliaid er mwyn profi ein ffordd o feddwl ac fel sail iddi.  Gwnaed hyn drwy gyfarfodydd unigol â chwmnïau a rheoleiddwyr dŵr a rhanddeiliaid allweddol eraill, er mwyn trafod eu blaenoriaethau a’u dyheadau ar gyfer eu cynnwys yn y strategaeth.  Ar 7 Tachwedd 2012, cynhaliwyd gweithdy penodol gennym gydag aelodau o Fforwm y Diwydiant Dŵr ar gyfer Cymru, er mwyn deall yr amcanion strategol ar gyfer y strategaeth ddŵr.

 

37. Cynhaliwyd cyfres o weithdai polisi drwy gydol mis Chwefror 2013 gyda dau ychwanegol wedi’u trefnu ar gyfer mis Mai 2013. Pwrpas y gweithdai hyn yw canfod safbwyntiau rhanddeiliaid allweddol a chael gwybodaeth ganddynt fel sail i ddatblygu’r ymgynghoriad ar y Strategaeth Ddŵr.    Roedd pob gweithdy’n rhoi sylw i bwnc allweddol y bydd yr ymgynghoriad yn rhoi sylw iddo.  Dyma’r pynciau:

 

§  Cyflenwi dŵr yfed o safon uchel yng Nghymru;

§  Rheoli gwasanaethau carthffosiaeth a draenio yn y dyfodol yng Nghymru;

§  Adnoddau dŵr yng Nghymru;

§  Cyflawni canlyniadau i gwsmeriaid – dyfodol y diwydiant dŵr;

§  Cyflawni canlyniadau i gwsmeriaid sy’n deuluoedd – mynd i’r afael â thlodi dŵr a materion fforddiadwyedd;

§  Gwerth dŵr;

§  Rheoli adnoddau dŵr yng Nghymru – dull o weithredu ar ffurf ecosystemau.

 

38. Rydym yn dadansoddi’r ymatebion i’r gweithdai sydd wedi’u cynnal hyd yma ar hyn o bryd.

 

 

Alun Davies

Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd